SL(5)190 - Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018
Cefndir a Phwrpas
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod darpariaethau amrywiol yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 i’w cymhwyso i ymchwiliadau i droseddau a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”). Maent yn cynnwys cael mynediad i fangre o dan amgylchiadau penodedig ac i ymafael mewn eitemau perthnasol.
Ceir esboniad o’r darpariaethau unigol yn y Nodyn Esboniadol a’r Memorandwm Esboniadol. Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ysgrifenedig cysylltiedig ar 21 Chwefror 2018 yn cyfeirio at yr amgynghoriad ynghylch y pwerau a’r penderfyniadau a gymerwyd.
Gweithdrefn
Gadarnhaol
Craffu Technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhoddir pwerau sylweddol i ACC gan y Rheoliadau hyn. Rhoddwyd esboniad nad yw’n ymddangos yn afresymol o’r pwerau hynny. Er hynny, tynnir sylw at y Rheoliadau ar y sail eu bod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu eu bod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad. [Rheol Sefydlog 21.3(ii)]
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn yn y cyd-destun hwnnw.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Chwefror 2018